Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 23 Hydref 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5854


237(v4)

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 5 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog y Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.15

Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yng ngoleuni Tŷ'r Cyffredin neithiwr yn cymeradwyo bargen Brexit am y tro cyntaf ers y refferendwm, ar ffurf Bil Cytundeb Ymadael y Prif Weinidog, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad i'r Cynulliad?

I’w ateb gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa drafodaethau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal gyda’r awdurdodau perthnasol yng ngoleuni’r newyddion trasig bod cyrff 39 o bobl wedi’u darganfod mewn cynhwysydd lori yn Essex ar ôl iddynt ddod i mewn i’r DU trwy Gaergybi?

</AI3>

<AI4>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.35

Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am - 180 mlynedd ers Gwrthryfel Casnewydd.

Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am - Trychineb Aberfan.

</AI4>

<AI5>

5       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb LHDT

Dechreuodd yr eitem am 15.38

NDM7144 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad o gynnydd am ei gwaith i fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT yng Nghymru.

2. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder er mwyn sicrhau dull integredig o fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT ac amddiffyn pobl LHDT yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynigion ar sut y gallai creu system gyfiawnder ddatganoledig i Gymru hybu diogelwch a llesiant pobl LHDT.

Cyd-gyflwynwyr
Leanne Wood (Rhondda)
Mick Antoniw (Pontypridd)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI5>

<AI6>

6       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllido Ysgolion yng Nghymru

Dechreuodd yr eitem am 16.29

NDM7166 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Cyllido Ysgolion yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig  - Mynd i'r Afael â Digartrefedd

Dechreuodd yr eitem am 17.34

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7167 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod nad yw polisïau cyfredol i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd yn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol.

2. Yn cymeradwyo'r arferion da sydd i'w gweld yn y sector ac yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Digartrefedd Llywodraeth Cymru.

3. Yn nodi:

a) bod 25 o farwolaethau wedi'u nodi ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru yn 2018, sy'n gynnydd nodedig o'r 11 o farwolaethau a nodwyd yn 2017;

b) bod 25,937 o bobl wedi profi digartrefedd ledled Cymru yn 2017/18, yn ôl ffigurau gan Shelter Cymru;

c) bod nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi cynyddu 75 y cant rhwng 2012 a 2017, a bod y nifer sy'n cysgu mewn ceir, pebyll ac ar gludiant cyhoeddus wedi cynyddu 50 y cant yn ôl ymchwil gan Crisis a Phrifysgol Heriot-Watt;

4. Yn nodi ymhellach gynllun gweithredu 10 pwynt y Ceidwadwyr Cymreig i fynd i'r afael â digartrefedd: 'Mwy na Lloches yn Unig'.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi tsar digartrefedd, yn ddelfrydol rhywun sydd â phrofiad o fyw yn ddigartref ac sy'n gallu craffu ar gynnydd tuag at roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

1

35

47

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod bod yna fwy y gellir ei wneud bob amser i fynd i'r afael â digartrefedd.

2. Yn cymeradwyo'r arfer da a welir yn y sector tai mewn perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.

3. Yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei adroddiad cyntaf.

4. Yn nodi:

a) Bod un person digartref sy'n marw yn drasiedi.

b) Yr effaith y mae cyni a diwygiadau i'r system les wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref.

5. Yn nodi ymhellach Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac ymgyrch adduned y sector cyhoeddus.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

22

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1, wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 - 6 eu dad-ddethol

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod toriadau Llywodraeth y DU i nawdd cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn digartrefedd, fel y rhagwelodd y sector fyddai'n digwydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

3

8

48

Derbyniwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu na chafodd angen blaenoriaethol ei ddileu'n raddol er mwyn gwneud lle i ddyletswydd gyffredinol i sicrhau llety diogel yn ystod Deddf Tai (Cymru) 2014, ac yn credu bod hwn yn gyfle a gollwyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

37

48

Gwrthodwyd gwelliant 9.

Gwelliant 10 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad Crisis ar roi terfyn ar ddigartrefedd sy'n berthnasol i feysydd polisi sydd heb eu datganoli, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n berthnasol i'w feysydd cyfrifoldeb. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

8

0

48

Derbyniwyd gwelliant 10.

Gwelliant 11 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Sicrhau bod Deddf Crwydradaeth 1824 yn cael ei datgymhwyso'n weithredol ym mhob un o ardaloedd yr heddlu yng Nghymru er mwyn osgoi gwneud pobl ddigartref yn droseddwyr am gysgu allan a chardota. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

2

0

48

Derbyniwyd gwelliant 11.

Gwelliant 12 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn ogystal â darparu tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n briodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD ac anhwylderau niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.  

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 12.

Gwelliant 13 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng digartrefedd ac i gyflwyno polisïau tai yn gyntaf i dynnu pobl oddi ar y strydoedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 13:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

34

48

Gwrthodwyd gwelliant 13.

Gwelliant 14 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu anghenion lleol wrth ymdrin â digartrefedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 14:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

0

42

48

Gwrthodwyd gwelliant 14.

Gwelliant 15 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad bon a brig o'r holl arian cyhoeddus a gaiff ei wario yn y sector tai er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 15:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

0

42

48

Gwrthodwyd gwelliant 15.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7167 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

1. Yn cydnabod bod yna fwy y gellir ei wneud bob amser i fynd i'r afael â digartrefedd.

2. Yn cymeradwyo'r arfer da a welir yn y sector tai mewn perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.

3. Yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei adroddiad cyntaf.

4. Yn nodi:

a) Bod un person digartref sy'n marw yn drasiedi.

b) Yr effaith y mae cyni a diwygiadau i'r system les wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref.

5. Yn nodi ymhellach Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac ymgyrch adduned y sector cyhoeddus.

6. Yn cydnabod bod toriadau Llywodraeth y DU i nawdd cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn digartrefedd, fel y rhagwelodd y sector fyddai'n digwydd.

7. Yn galw ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad Crisis ar roi terfyn ar ddigartrefedd sy'n berthnasol i feysydd polisi sydd heb eu datganoli, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n berthnasol i'w feysydd cyfrifoldeb.

8. Sicrhau bod Deddf Crwydradaeth 1824 yn cael ei datgymhwyso'n weithredol ym mhob un o ardaloedd yr heddlu yng Nghymru er mwyn osgoi gwneud pobl ddigartref yn droseddwyr am gysgu allan a chardota.

9. Yn ogystal â darparu tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n briodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD ac anhwylderau niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

8

11

48

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI7>

<AI8>

8       Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.45

</AI8>

<AI9>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 18.50

NDM7165 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Grym tai cydweithredol fel modd o helpu i ddiwallu anghenion tai mewn cymunedau ledled Cymru.

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 19.14

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 5 Tachwedd 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>